Cyngor Llawn

28/10/2024 am 6:30 pm

Cofnodion:

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

Cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi, Morfa Mawr

Meeting of the Full Council meeting held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi, Queen’s Road

28.10.2024

 COFNODION / MINUTES
166 Yn bresennol:

Cyng. Emlyn Jones (Cadeirydd)

Cyng. Dylan Lewis-Rowlands

Cyng. Kerry Ferguson

Cyng. Talat Chaudhri

Cyng. Brian Davies

Cyng. Glynis Somers

Cyng. Umer Aslam

Cyng. Jeff Smith

Cyng. Mark Strong

Cyng. Lucy Huws

Cyng. Mari Turner

Cyng. Alun Williams

Cyng. Mari Turner

Cyng. Connor Edwards

Cyng. Bryony Davies

 

Yn mynychu:

Cyng. Endaf Edwards (Cyngor Sir Ceredigion)

Will Rowlands (Clerc)

Carol Thomas (Cyfieithydd)

Present:

Cllr. Emlyn Jones (Chair)

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands

Cllr. Kerry Ferguson

Cllr. Talat Chaudhri

Cllr. Brian Davies

Cllr. Glynis Somers

Cllr. Umer Aslam

Cllr. Jeff Smith

Cllr. Mark Strong

Cllr. Lucy Huws

Cllr. Mari Turner

Cllr. Alun Williams

Cllr. Mari Turner

Cllr. Connor Edwards

Cllr. Bryony Davies

 

In attendance:

Cllr. Endaf Edwards (Ceredigion County Council)

Will Rowlands (Clerk)

Carol Thomas (Translator)

 
167 Ymddiheuriadau ac absenoldeb:

Yn absennol efo ymddiheuriadau:

Cyng. Maldwyn Pryse

Cyng. Mair Benjamin

Cyng. Gwion Jones

Cyng. Owain Hughes

 

Yn absennol heb ymddiheuriadau:

Dim

Apologies and absence:

Absent with apologies:

Cllr. Maldwyn Pryse

Cllr. Mair Benjamin

Cllr. Gwion Jones

Cllr. Owain Hughes

 

Absent without apologies:

None

 

 
168 Datgan Diddordeb ar faterion yn codi o’r agenda

·         193. colled swyddi yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Mae’r Cyng. Jeff Smith yn cael ei gyflogi gan y Llyfrgell Genedlaethol.

·         193. colled swyddi yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Mae’r Cyng. Mark Strong yn cael ei gyflogi gan y Llyfrgell Genedlaethol.

·         193. colled swyddi yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Mae gan y Cyng. Kerry Ferguson berthynas fusnes gyda’r Llyfrgell Genedlaethol.

·         193. colled swyddi yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Mae gan y Cyng. Emlyn Jones berthynas fusnes gyda’r Llyfrgell Genedlaethol.

Declaration of Interest on Matters Arising from the agenda

·         193. loss of jobs at the National Library of Wales: Cllr. Jeff Smith is employed by the National Library.

·         193. loss of jobs at the National Library of Wales: Cllr. Mark Strong is employed by the National Library.

·         193. loss of jobs at the National Library of Wales: Cllr. Kerry Ferguson has a business relationship with the National Library.

·         193. loss of jobs at the National Library of Wales: Cllr. Emlyn Jones has a business relationship with the National Library.

 

 
169 Cyfeiriadau Personol

·         Estynnwyd llongyfarchiadau a diolch i drigolion a busnesau a oedd wedi gwrthwynebu grŵp a oedd yn datgan sylwadau homoffobig ac atgas yn top y dref ar ddydd Gwener 25 Hydref 2024. Diolchwyd yn benodol i berchnogion siop gelf Millwards a Cilhaul Crafts am eu rhan.

·         Derbyniwyd dymuniadau gorau oddi wrth y Cyng. Maldwyn Pryse, oedd wedi cyrraedd Siapan yn ddiogel i ymweld â gefeilldref Aberystwyth, Yosano.

Personal References

·         Congratulations and thanks were extended to residents and businesses who had opposed a group espousing homophobic and hateful views at the top of town on Friday 25 October 2024. Specific thanks were extended to the proprietors of Millwards’ art shop and Cilhaul Crafts for their involvement.

·         Best wishes had been received from Cllr. Maldwyn Pryse, who had arrived safely in Japan to visit Aberystwyth’s twin town, Yosano.

 
170 Adroddiad y Maer

Dosbarthwyd adroddiad ysgrifenedig trwy e-bost. Ni chodwyd unrhyw gwestiynau.

Mayoral report

A written report was circulated via email. No questions were raised.

 

 
171 Diweddariadau gan y Clerc

 

Cafwyd diweddariad llafar gan y Clerc:

·         Problemau banc: Roedd y cerdyn banc newydd, y darllenydd cerdyn a’r PIN i gyd wedi cyrraedd o’r diwedd a gellid gwneud taliadau eto. Unwaith y byddai taliadau wedi’u cwblhau, gellid cyflwyno hawliadau grant lluosog i adennill arian yn ymwneud â phrosiectau grant. Roedd cwyn yn dal i gael ei dilyn gyda banc NatWest oherwydd yr aflonyddwch a achoswyd.

·         Yswiriant: Roedd y gofrestr asedau yn cael ei diweddaru i newid gwerthoedd yswirio, gan obeithio bydd hyn yn lleihau premiwm yswiriant y Cyngor. I’w baratoi ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor Cyllid.

·         Neuadd Gwenfrewi: Cyfrifon yn cael eu hadolygu i gyfrifo’r cyfanswm a wariwyd ar yr adeiladau ers eu prynu.

·         Rheoliadau Ariannol: Derbyniwyd rheoliadau model newydd gan Un Llais Cymru. Byddai’r rhain yn cael eu haddasu i weddu i’r Cyngor Tref a’u hystyried gan y Pwyllgorau Rheolau Sefydlog a Pholisi, a Chyllid.

·         Mannau Tyfu Plascrug:

o   Digwyddiad cerfio pwmpenni Calan Gaeaf yn cael ei gynnal rhwng 2yh a 4yh ddydd Mawrth 29 Hydref 2024.

o   Roedd elfen pont droed y grant Lleoedd Lleol i Natur yn cael ei chadw’n ôl tra’n aros am ganiatâd y tirfeddiannwr ar gyfer ei osod gan Gyngor Sir Ceredigion.

·         Tŷ’r Offeiriad: Yr oedd gwybodaeth y gofynnwyd amdani wedi ei darparu i Asiantaeth y Swyddfa Brisio er mwyn iddynt ddarparu gwerth trethiannol i Dŷ’r Offeiriad. Byddai prisiad gwerthiant yn cael ei drefnu er mwyn deall gwerth yr eiddo yn dilyn y gwaith adfer.

·         Asesiad risg tân: Roedd asesiad wedi ei gwblhau ar Dŷ’r Offeiriad, ac roedd angen mân newidiadau, gan gynnwys arwyddion, profi larymau a gosod diffoddwyr tân. Adroddiad i’w ddosbarthu.

·         Tâl y sector cyhoeddus 2024-25: Daethpwyd i gytundeb ar raddfeydd cyflog ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25 rhwng Llywodraeth y DU ac undebau llafur perthnasol. I’w ystyried gan y Pwyllgor Staffio.

Diolchwyd i’r Clerc am ei waith.

Updates from Clerk

 

A verbal update was provided by the Clerk:

·         Bank problems: The new bank card, card reader and PIN had finally all arrived and payments could be made again. Once payments had been completed, multiple grant claims could be submitted to reclaim funds related to grant projects. A complaint was still being pursued with NatWest bank due to the disruption caused.

·         Insurance: The asset register was being updated to amend insured values, thereby hopefully reducing the Council’s insurance premium. To be prepared for next Finance Committee meeting.

·         Neuadd Gwenfrewi: Accounts being reviewed to calculate the total amount spent on the buildings since purchase.

·         Financial Regulations: New model regulations had been received from One Voice Wales. These would be adapted to suit the Town Council and considered by the Standing Orders & Policy, and Finance Committees.

·         Plascrug Growing Spaces:

o   Halloween pumpkin carving event being held between 2pm and 4pm on Tuesday 29 October 2024.

o   The footbridge element of the Local Places for Nature grant was being withheld pending landowner permission for its installation from Ceredigion County Council.

·         Presbytery: Information requested had been provided to the Valuation Office Agency in order for them to provide a rateable value for the Presbytery. A sales valuation would be arranged to understand the property’s value following the restoration works.

·         Fire risk assessment: An assessment had been completed on the Presbytery, and small changes were needed, including signage, alarm testing and installation of fire extinguishers. Report to be circulated.

·         Public sector pay 2024-25: Agreement had been reached on pay scales for the 2024-25 financial year between the UK Government and relevant trade unions. To be considered by Staffing Committee.

The Clerk was thanked for his work.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Agenda Cyllid

Finance Agenda

 

 

 

Agenda Polisi

Policy Agenda

Agenda Cyllid

Finance Agenda

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Agenda Staffio

Staffing Agenda

172 Diweddariadau gan y Rheolwr Cyfleusterau ac Asedau

 

Dosbarthwyd adroddiad ysgrifenedig, ac ni chodwyd unrhyw gwestiynau. Roedd diweddariadau yn cynnwys:

·         Neuadd Gwenfrewi: Roedd y gwaith ar neuadd yr Eglwys i fod yn ddefnyddiadwy ar gyfer cyfarfodydd y Cyngor bron wedi ei gwblhau. Roedd disgwyl i waith ar y llwybrau o amgylch Tŷ’r Offeiriad ddechrau o ail wythnos Tachwedd.

·         Prosiect grant Trawsnewid Trefi:

o   Roedd y gwaith plannu ym Maes y Frenhines i gyd wedi’i gwblhau.

o   Roedd gwaith i ail-lefelu ardal amwynder tir y castell wedi dechrau a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn dechrau mis Tachwedd.

·         Blodau: Byddai plannu bylbiau Gwanwyn/Gaeaf yn dechrau yn ystod yr wythnos, gan ddechrau gyda gwelyau blodau’r promenâd.

Updates from Facilities & Assets Manager

 

A written report was circulated, and no questions were raised. Updates included:

·         Neuadd Gwenfrewi: Works for the Church hall to be useable for Council meetings were almost completed. Work to the paths around the Presbytery was expected to commence from the second week of November.

·         Transforming Towns grant project:

o   Queen’s Square planting had all been completed.

o   Work to re-level the amenity area of the castle grounds had begun and was expected to be complete by early November.

·         Flowers: Planting of Spring/Winter bulbs would be commencing in the week, beginning with the promenade flower beds.

 

 
173 Gwaith adferol Neuadd Gwenfrewi Neuadd Gwenfrewi remedial works  
173.1 Allanol

 

Cafwyd diweddariad ar y gwaith sydd ei angen ar y tu allan i’r wal ddeheuol. Roedd hyn yn cynnwys:

·         Cael gwared ar dyfiant eiddew.

·         Gosod gwteri a pheipiau dŵr newydd.

·         Adnewyddu gwaith plwm rhwng y porth mynediad a tho’r eglwys.

Byddai angen codi sgaffaldiau ar gyfer y gwaith hwn, ac roedd costau ar gyfer hyn yn cael eu ceisio. Derbyniwyd cost amcangyfrifedig o tua £1,500 ar gyfer y gwaith, fodd bynnag roedd hyn yn seiliedig ar ddefnyddio gwteri a phibellau dŵr UPVC. Byddai’r gwaith yn cael ei ail-gostio gyda’r opsiwn o ddefnyddio deunyddiau haearn bwrw a’i drafod gan y Pwyllgor Cyllid.

 

Roedd consensws cyffredinol i gefnogi gwteri a phibellau dŵr haearn bwrw.

Exterior

 

An update was provided on work needed to the exterior of the South wall. This included:

·         Removal of ivy growth.

·         Replacement of guttering & downpipes.

·         Renewal of leadwork between entry porch & church roof.

Erection of scaffolding would be necessary for this work, and costs for this were being sought. Estimated cost of around £1,500 had been received for the works, however this was based on using UPVC guttering & downpipes. The work would be re-costed with the option of using cast iron materials and discussed by the Finance Committee.

 

There was general consensus to support cast iron guttering & downpipes.

 

Agenda Cyllid

Finance Agenda

173.2 Gwresogi

 

Roedd y gwresogyddion yn neuadd yr eglwys wedi cael eu harchwilio ac roedd angen eu trwsio. Roeddid yn gofyn am gostau atgyweirio, fodd bynnag byddai gwresogyddion cyfnewid tebyg at ei debyg yn costio tua £6,200. Ni ellid gwneud unrhyw benderfyniad, oherwydd y diffyg gwybodaeth am gostau atgyweirio, fodd bynnag cytunwyd i ymchwilio i fathau eraill o wresogi, megis gwresogyddion isgoch neu drydan.

 

PENDERFYNWYD cynnal cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio nos Lun 4 Tachwedd yn neuadd yr eglwys. Pe bai hyn yn anymarferol, byddai lleoliad cyfarfodydd dilynol yn cael ei drafod a’i gytuno rhwng y Clerc a Chadeiryddion y cyfarfodydd. Byddai costau llogi lleoliad allanol yn cael eu harchwilio.

Heating

 

The heaters in the church hall had been inspected and were in need of repair. Costings were being sought for repair, however like-for-like replacement heaters would cost around £6,200. No decision could be made, due to the lack of information on repair costs, however it was agreed to investigate alternative forms of heating, such as infrared or electric heaters.

 

It was RESOLVED to hold the Planning Committee meeting on Monday 4 November in the church hall. If this proved to be impractical, the location of subsequent meetings would be discussed and agreed between the Clerk and meeting Chairs. Costs for hiring an external venue would be investigated.

 

 
174 Adroddiadau AR LAFAR gan Gynghorwyr Cyngor Sir Ceredigion ar faterion sydd yn ymwneud â’r cyngor hwn YN UNIG

 

Cyng. Endaf Edwards:

·         Roedd gwaith datblygu’r promenâd wedi dechrau a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2025.

·         Roedd nifer y rhai sy’n cysgu ar y stryd yng Ngheredigion wedi cynyddu, gydag ystadegau ar gyfer Medi 2024 yn dangos tua 23 ledled Ceredigion. Roedd pob un ond 2 o’r rhain yn Aberystwyth. Darparwyd dadansoddiad pellach o’r ystadegau.

·         Roedd cyfarfod arbennig o Gyngor Sir Ceredigion yn cael ei gynnal ar 14 Tachwedd i bleidleisio ar gynnig i newid y system bleidleisio yn etholiadau Cyngor Sir Ceredigion i system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy. Roedd y cynnig yn ei gwneud yn ofynnol i ddwy ran o dair o’r aelodau bleidleisio o blaid er mwyn pasio.

 

Cyng. Alun Williams:

·         Roedd yr ymgynghoriad ar newid y system bleidleisio yn etholiadau Cyngor Sir Ceredigion wedi dod i ben. Derbyniodd 475 o ymatebion, gyda 67% o blaid newid i system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy.

·         Roedd yn gadarnhaol gweld portacabin newydd Wheel Together yn agor ger yr harbwr. Roedd y tir wedi’i brydlesu i’r grŵp gan Gyngor Sir Ceredigion.

·         Roedd Cyngor Sir Ceredigion wedi cytuno i ysgrifennu at Ganghellor y Trysorlys i ddeisebu am fwy o gyllid a chyllid tecach i lywodraeth leol.

·         Roedd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Biosffer Dyfi yn cael ei gynnal ddydd Mercher 30 Hydref yn Y Plas, Machynlleth.

 

VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to this Council

 

Cllr. Endaf Edwards:

·         Promenade development works had begun and were expected to be completed by the end of March 2025.

·         The number of rough sleepers in Ceredigion had increased, with statistics for September 2024 showing around 23 throughout Ceredigion. All but 2 of these were in Aberystwyth. A further breakdown of the statistics was provided.

·         An extraordinary meeting of Ceredigion County Council was being held on 14 November to vote on a proposal to change voting system at Ceredigion County Council elections to a Single Transferable Vote system. The proposal required two-thirds of members to vote in favour in order to pass.

 

Cllr. Alun Williams:

·         The consultation of changing voting system at Ceredigion County Council elections had closed. It received 475 responses, with 67% being in favour of changing to a Single Transferrable Vote system.

·         It was positive to see the opening of Wheel Together’s new portacabin by the harbour. The land had been leased to the group from Ceredigion County Council.

·         Ceredigion County Council had agreed to write to the Chancellor of the Exchequer to petition for more and fairer funding for local government.

·         The Dyfi Biosphere AGM was being held on Wednesday 30 October at Y Plas, Machynlleth.

 

 
175 Cofnodion o Gyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun 23 Medi 2024 i gadarnhau cywirdeb

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion.

Minutes of the Meeting of Full Council held on Monday 23 September 2024 to confirm accuracy

 

It was RESOLVED to approve the minutes.

 

 
176 Materion yn codi o’r Cofnodion:

 

127. Diweddariadau’r Clerc:

·         Dal i ddisgwyl costau terfynol cytundeb adnewyddu Tŷ’r Offeiriad.

132. Materion yn codi:

·         Byddai’r mynegbost ar ben y dref yn cael ei atgyweirio erbyn diwedd yr wythnos.

140. Materion yn codi:

·         Cynhelir cyfarfod gydag uwch swyddogion Cyngor Sir Ceredigion i drafod y jeti ddydd Mercher 6 Tachwedd.

148. Toiledau Cyhoeddus:

·         Parheir i aros am ymateb i gynnig y Cyngor Tref.

150. Geiriad placiau:

·         Roedd geiriad drafft wedi’i ddosbarthu; gofynnwyd am ddyddiad ar gyfer plac Cranogwen.

Matters arising from the Minutes:

 

127. Clerk’s updates:

·         Final costs were still awaited for the Presbytery refurbishment contract.

132. Matters arising:

·         The fingerpost at the top of town would be repaired by the end of the week.

140. Matters arising:

·         A meeting with senior Ceredigion County Council officers would be held to discuss the jetty on Wednesday 6 November.

148. Public toilets:

·         A response to the Town Council’s proposal was still awaited.

150. Plaque wordings:

·         Draft wordings had been circulated; a date was requested for the Cranogwen plaque.

 

 
177 Cofnodion Cyfarfod Arbennig o’r Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun 7 Hydref 2024, i gadarnhau cywirdeb

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion.

Minutes of the Extraordinary Meeting of Full Council held on Monday, 7 October 2024 to confirm accuracy

 

It was RESOLVED to approve the minutes.

 

 
178 Materion yn codi o’r cofnodion

 

·         Roedd ymatebion i’r ymgynghoriadau wedi’u hanfon.

·         Ni dderbyniwyd ymateb hyd yma ynglŷn â hyfforddiant Côd Ymddygiad.

Matters arising from the minutes

 

·         Consultation responses had been sent.

·         No response had been received as yet regarding Code of Conduct training.

 

 
179 Cofnodion o’r Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar nos Lun 7 Hydref 2024

 

PENDERFYNWYD diwygio’r cofnodion fel a ganlyn:

 

5.4. A240654: Pafiliwn y Pier: Y frawddeg ganlynol i’w hychwanegu at y cofnod: “Ni all y Cyngor Tref wneud penderfyniad heb y wybodaeth gyflawn”.

 

Gyda’r newid uchod, PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion.

 

Minutes of the Planning Committee meeting held on Monday 7 October 2024, to confirm accuracy

 

It was RESOLVED to amend the minutes as follows:

 

5.4. A240654: Pier Pavilion: The following sentence to be added to the minute: “The Town Council cannot make a decision without the full information”.

 

With the amendment above, it was RESOLVED to approve the minutes.

 

 
180 Materion yn codi o’r Cofnodion:

 

Dim

Matters arising from the minutes

 

None

 

 
181 Cofnodion o’r Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd ar nos Lun 14 Hydref 2024

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion a’r argymhellion. Diwygiwyd yr argymhelliad a ganlyn:

 

4. Llysgennad heddwch:

·         PENDERFYNWYD penodi dau lysgennad ar y cyd, yn hytrach na phrif a dirprwy.

Minutes of the General Management Committee meeting held on Monday 14 October 2024, to confirm accuracy

 

It was RESOLVED to approve the minutes and recommendations. The following recommendation was amended:

 

4. Peace ambassador:

·         It was RESOLVED to appoint two joint ambassadors, rather than a primary & deputy.

 

 
182 Materion yn codi o’r Cofnodion:

 

4. Llysgennad heddwch:

·         Ymchwiliwyd i gostau ‘polyn heddwch’. I’w ystyried gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol.

6. Cyflwyniad gan Brifysgol Aberystwyth:

·         Dulliau o gynnwys myfyrwyr, megis trwy gyfarfodydd ag Undeb y Myfyrwyr, i’w hystyried gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol.

12. Gofal cymdeithasol:

·         Roedd y Cyng.Alun Williams wedi gwahodd Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Porth Gofal i siarad â’r Cyngor. Byddai angen anfon cwestiynau at y Clerc ymlaen llaw.

Matters arising from the minutes

 

4. Peace ambassador:

·         Costings of a ‘peace pole’ had been investigated. To be considered by General Management Committee.

6. Presentation from Aberystwyth University:

·         Means of involving students, such as through meetings with the Students’ Union, to be considered by General Management Committee.

12. Social care:

·         Cllr. Alun Williams had invited Ceredigion County Council’s Corporate Lead Officer for Porth Gofal to speak with the Council. Questions would need to be sent to the Clerk prior.

 

 

 

Agenda RhC

GM Agenda

 

Agenda RhC

GM Agenda

183 Cofnodion o’r Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau a gynhaliwyd ar nos Lun, 21 Hydref 2023

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion a’r argymhellion.

Minutes of the Finance Committee meeting held on Monday 21 October 2024, to confirm accuracy

 

It was RESOLVED to approve the minutes and recommendations.

 

 
184 Materion yn codi o’r Cofnodion:

 

6. Lleoli gwasanaethau golygfa strydoedd o’r Castell:

·         Darganfuwyd dewis arall o ddefnyddio unedau dur fflatpac, a fyddai’n arbediad cost sylweddol ac angen llai o le. I ofyn am ganiatâd gan Gyngor Sir Ceredigion a CADW.

·         Roedd y sgriniau haearn bwrw y tu allan i doiledau’r Castell yn debygol o gael eu dileu. I’w ystyried gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol.

8. Materion ariannol prosiectau grant 2024:

·         Roedd esboniad ysgrifenedig wedi’i ddosbarthu. Ni chodwyd unrhyw gwestiynau.

9. Cyllideb 2025-26

·         Byddai’r gyllideb yn cael ei ailddrafftio yn dilyn cytundeb Llywodraeth y DU ar raddfeydd cyflog y sector cyhoeddus.

10. Nadolig 2024:

·         Cyfarfod i’w gynnal gyda’r contractwr goleuo i gadarnhau dichonoldeb y goleuadau ychwanegol.

 

Matters arising from the minutes

 

6. Basing street scene services from the Castle:

·         An alternative of using flat-packed steel units had been found, which would represent a significant cost saving and require less space. Permission from Ceredigion County Council & CADW to be sought.

·         The cast iron modesty screens outside the Castle toilets were likely to be removed. To be considered by General Management Committee.

8. 2024 grant projects financial matters:

·         A written explanation had been circulated. No questions were raised.

9. Budget 2025-26:

·         The budget would be re-drafted following the UK Government’s agreement on public sector pay scales.

10. Christmas 2024:

·         A meeting to be held with the lighting contractor to confirm feasibility of the additional lights.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Agenda RhC

GM Agenda

185 Ystyried gwariant Mis Hydref

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r gwariant.

To consider October expenditure

 

It was RESOLVED to approve the expenditure.

 

 
186 Cymeradwyo cyfrifon Mis Medi

 

PENDERFYNWYD i gymeradwyo’r cyfrifon.

To approve September accounts

 

It was RESOLVED to approve the accounts.

 

 
187 Cwestiynau ar gyfer cyfarfod a Chyngor Sir Ceredigion ar 26 Tachwedd

 

Byddai’r Maer a’r Clerc yn mynychu’r cyfarfod rhwng Cyngor Sir Ceredigion a Chynghorau Tref a Chymuned.

 

PENDERFYNWYD dirprwyo’r pŵer i’r Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol benderfynu ar y cwestiynau i’w codi.

Questions for meeting with Ceredigion County Council on 26 November

 

The Mayor and Clerk would be attending the meeting between Ceredigion County Council and Town and Community Councils. It was RESOLVED to delegate power for the General Management Committee to decide on the questions to be raised.

 

Agenda RhC

GM Agenda

188 Risg o greigiau’n cwympo – prom y De a Phen yr Angor (pryderon preswylwyr)

 

PENDERFYNWYD ysgrifennu at Gyngor Sir Ceredigion i godi’r risg y gallai creigiau ddisgyn ym Mhen yr Angor, Tanybwlch a phromenâd y De. Byddai’r llythyr hwn yn gofyn i’r awdurdod gynnal asesiad diogelwch o bob safle, a phe bai risg i ddiogelwch y cyhoedd yn cael ei nodi, i gymryd y camau angenrheidiol i wneud y mannau hyn yn ddiogel. Byddai hefyd yn annog yr awdurdod i gymryd camau gorfodi lle mae’r ardaloedd dan sylw yn ymwneud â thir preifat.

Risk of falling rocks – South prom and Pen yr Angor (resident’s concerns)

 

It was RESOLVED to write to Ceredigion County Council to raise the potential risk of falling rocks at Pen yr Angor, Tanybwlch and the South promenade. This letter would request the authority to conduct a safety assessment of each site, and if a risk to public safety was identified, to take necessary actions to make these areas safe. It would also encourage the authority to take enforcement action where the areas in question relate to private land.

 

Llythyr

Letter

189 Aelodaeth Pwyllgorau ar gyfer aelodau cyfetholedig

 

Yn dilyn cyfethol y Cyng. Umer Aslam a Glynis Somers ym mis Awst, PENDERFYNWYD gwneud y penodiadau canlynol:

 

Cyng. Umer Aslam:

·         Pwyllgor Cynllunio

·         Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol

·         Pwyllgor Cyllid

 

Cyng. Glynis Somers:

·         Pwyllgor Cynllunio

·         Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol

Co-opted members’ Committee membership

 

Following co-option of Cllrs. Umer Aslam & Glynis Somers in August, it was RESOLVED to make the following appointments:

 

Cllr. Umer Aslam:

·         Planning Committee

·         General Management Committee

·         Finance Committee

 

Cllr. Glynis Somers:

·         Planning Committee

·         General Management Committee

 

 
190 Cwestiynau sy’n ymwneud â materion tu fewn cylch gorchwyl y Cyngor hwn YN UNIG.

 

Roedd pryderon wedi eu codi gan drigolion am ardal yr hen Ysgol Gymraeg ar Ffordd Alexandra, a oedd yn dywyll iawn yn y nos, heb olau. PENDERFYNWYD ysgrifennu at y tirfeddianwyr i godi’r mater a chydweithio i ddarparu goleuadau. Byddai’r mater hefyd yn cael ei godi gyda Chyngor Sir Ceredigion.

Questions relating ONLY to matters in this Council’s remit

 

Concerns had been raised by residents about the area of the old Ysgol Gymraeg on Ffordd Alexandra, which was very dark at night, with no lighting. It was RESOLVED to write to the landowners to raise the issue and cooperate to provide lighting. The matter would also be raised with Ceredigion County Council.

 

 
191 Ceisiadau cynllunio

 

Planning applications

 

 
191.1 Dim None

 

 
192 Adroddiadau YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff allanol

 

Dim.

 

Atgoffwyd yr aelodau o bwysigrwydd mynychu cyfarfodydd lle maent yn cynrychioli’r Cyngor a darparu adroddiadau.

WRITTEN Reports from representatives on outside bodies

 

None.

 

Members were reminded of the importance of attending meetings where they represent the Council and providing reports.

 

 
193 Cynnig: Llysgennad heddwch (Cyng. Lucy Huws a Dylan Lewis-Rowlands)

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cynnig gyda gwelliant i’r geiriad fel a ganlyn:

“Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn nodi eu rhwystredigaeth ddofn gyda……”.

Motion: loss of jobs at the National Library of Wales (Cllrs. Dylan Lewis-Rowlands)

 

It was RESOLVED to approve the motion with an amendment for the wording to read:

“Aberystwyth Town Council notes their deep frustration with……”.

 

 
194 Gohebiaeth

 

Correspondence  
194.1 Cytundeb cyflog y sector cyhoeddus 2024-25: Cytundeb rhwng Llywodraeth y DU ac undebau llafur. I’w ystyried gan y Pwyllgor Staffio Public sector pay agreement 2024-25: Agreement reached between UK Government and trade unions. To be considered by Staffing Committee. Agenda Staffio

Staffing Agenda

194.2 Mainc cam-drin domestig: Cais gan breswylydd i osod mainc goch i godi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig. I’w ystyried gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol. Domestic abuse bench: Request from a resident to install a red bench to raise awareness of domestic abuse. To be considered by General Management Committee. Agenda RhC

GM Agenda

194.3 Byrddau cyfathrebu: Cais gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda i osod bwrdd cyfathrebu ar gyfer plant ag anawsterau cyfathrebu ym mharc Plascrug. Roedd y byrddau hyn eisoes yn bresennol ym mharciau’r Castell a Phenparcau; roedd bwrdd ychwanegol yn cael ei ddarparu am ddim gan y bwrdd iechyd i’w osod ym mharc Plascrug. Communication boards: Request from Hywel Dda Health Board to install communication board for children with communication difficulties in Plascrug park. These boards were already present in the Castle & Penparcau parks; an additional board was being provided for free by the health board for installation in Plascrug park.  

 

Cofnodion:

Cyngor Tref   ABERYSTWYTH   Town Council

Tŷ’r Offeiriad / The Presbytery

Neuadd Gwenfrewi

Morfa Mawr / Queen’s Road

Aberystwyth

SY23 2BJ

    council@aberystwyth.gov.uk                           www.aberystwyth.gov.uk

01970 624761

Maer Aberystwyth Mayor: Y Cyng. / Cllr. Maldwyn Pryse

23.10.2024

 

Annwyl Gynghorydd / Dear Councillor

Fe’ch gelwir i fynychu Cyfarfod o’r CYNGOR LLAWN, i’w gynnal o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi, Morfa Mawr ar Nos Lun 28 Hydref 2024 am 18:30.

You are summoned to attend the a Meeting of FULL COUNCIL to be held remotely and in the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi, Queen’s Road on Monday, 28 October 2024 at 18:30.

Agenda

 

 

166 Presennol Present
167 Ymddiheuriadau ac absenoldeb Apologies & absences
168 Datgan Diddordeb ar faterion sy’n codi o’r Agenda Declaration of Interest on Matters arising from the Agenda
169 Cyfeiriadau Personol Personal References
170 Adroddiad ar Weithgareddau’r Maer Mayoral Activity Report
171 Diweddariadau gan y Clerc Updates from Clerk
172 Diweddariadau gan y Rheolwr Cyfleusterau ac Asedau Updates from Facilities & Assets Manager
173 Gwaith adferol Neuadd Gwenfrewi Neuadd Gwenfrewi remedial works
173.1 Allanol Exterior

 

173.2 Gwresogi Heating

 

174 Adroddiadau AR LAFAR gan Gynghorwyr Cyngor Sir Ceredigion ar faterion sydd yn ymwneud â’r cyngor hwn YN UNIG VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to this Council
175 Cofnodion o Gyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun, 23 Medi 2024 i gadarnhau cywirdeb Minutes of the Meeting of Full Council held on Monday, 23 September 2024 to confirm accuracy
176 Materion yn codi o’r Cofnodion Matters arising from the minutes
177 Cofnodion o Gyfarfod Arbennig y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun, 7 Hydref 2024 i gadarnhau cywirdeb Minutes of the Extraordinary Meeting of Full Council held on Monday, 7 October 2024 to confirm accuracy
178 Materion yn codi o’r Cofnodion Matters arising from the minutes
179 Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd nos Lun 7 Hydref 2024, i gadarnhau cywirdeb Minutes of the Planning Committee meeting held on Monday 7 October 2024, to confirm accuracy
180 Materion yn codi o’r Cofnodion Matters arising from the minutes
181 Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd nos Lun 14 Hydref 2024, i gadarnhau cywirdeb Minutes of the General Management Committee meeting held on Monday 14 October 2024, to confirm accuracy
182 Materion yn codi o’r Cofnodion Matters arising from the minutes
183 Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cyllid a gynhaliwyd nos Lun 21 Hydref 2024, i gadarnhau cywirdeb Minutes of the Finance Committee meeting held on Monday 21 October 2024, to confirm accuracy
184 Materion yn codi o’r Cofnodion Matters arising from the minutes
185 Cymeradwyo gwariant Mis Hydref To approve October expediture
186 Cymeradwyo cyfrifon Mis Medi To approve September accounts
187 Cwestiynau ar gyfer cyfarfod â Chyngor Sir Ceredigion ar 26 Tachwedd Questions for meeting with Ceredigion County Council on 26 November
188 Risg o greigiau’n cwympo – prom y De a Phen yr Angor (pryderon preswylwyr) Risk of falling rocks – South prom and Pen yr Angor (resident’s concerns)
189 Aelodaeth Pwyllgorau ar gyfer aelodau cyfetholedig

 

Co-opted members’ Committee membership
190 Cwestiynau sy’n ymwneud â materion tu fewn cylch gorchwyl y Cyngor hwn YN UNIG Questions relating ONLY to matters in this Council’s remit
191 Ceisiadau cynllunio Planning applications
192 Adroddiadau YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff allanol WRITTEN Reports from representatives on outside bodies
193 Cynnig: colled swyddi yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (Cyng. Dylan Lewis-Rowlands) Motion: loss of jobs at the National Library of Wales (Cllr. Dylan Lewis-Rowlands)
194 Gohebiaeth Correspondence

Yr eiddoch yn gywir/ Yours sincerely

Will Rowlands

Clerc Tref  Aberystwyth Town Clerk

Gall y cyhoedd fynychu’r Cyngor trwy gysylltu gyda Swyddfa’r Cyngor Tref am fanylion

01970 624761 / council@aberystwyth.gov.uk

Members of the public can attend the Council by contacting the Town Council Office for details