Cynllunio

06/10/2025 am 7:30 pm

Cofnodion:

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

 

Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi, Morfa Mawr

Minutes of the Planning Committee meeting held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi, Queen’s Road

 

6.10.2025

 

 

COFNODION  /  MINUTES

 

1 Yn bresennol:

 

Cyng. Jeff Smith (Cadeirydd)

Cyng. Dylan Lewis-Rowlands

Cyng. Kerry Ferguson

Cyng. Emlyn Jones

Cyng. Lucy Huws

Cyng. Talat Chaudhri

Cyng. Julien Brun

Cyng. Mair Benjamin

 

Yn mynychu:

Cyng. Mark Strong

Will Rowlands (Clerc)

Catrin Morgan-Lewis (Swyddog Gweinyddol)

Carol Thomas (Cyfieithydd)

 

Present:

 

Cllr. Jeff Smith (Chair)

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands

Cllr. Kerry Ferguson

Cllr. Emlyn Jones

Cllr. Lucy Huws

Cllr. Talat Chaudhri

Cllr. Julien Brun

Cllr. Mair Benjamin

 

In attendance:

Cllr. Mark Strong

Will Rowlands (Clerk)

Catrin Morgan-Lewis (Office Administrator)

Carol Thomas (Translator)

 

 

 
2 Ymddiheuriadau ac Absenoldeb:

 

Yn absennol efo ymddiheuriadau:

Dim

 

Yn absennol heb ymddiheuriadau:

Dim

Apologies and Absences:

 

Absent with apologies:

None

 

Absent without apologies:

None

 

 
3 Datgan Diddordeb:

 

5.3. A250695 Rest, Ffordd y Gogledd: Roedd y Cyng. Kerry Ferguson yn adnabod yr ymgeisydd.

 

5.1- 5.4: Roedd y Cyng. Alun Williams hefyd yn Gynghorydd Sir Ceredigion dros yr ardal.

Declaration of interest:

 

5.3. A250695 Rest, Ffordd y Gogledd: Cllr. Kerry Fergurson knew the applicant.

 

5.1- 5.4:  Cllr. Alun Williams was also a Ceredigion County Councillor for the ward.

 

 
4 Cyfeiriadau Personol:

 

·         Bydd y Polisïau Cynllunio yn cael eu hadolygu gan y Pwyllgor Rheolau Sefydlog a Pholisi ym mis Tachwedd.

 

Personal references:

 

·         Planning Policies would be reviewed by the Standing Orders & Policy Committee in November.

 

 
5 Ystyried Ceisiadau Cynllunio

 

To consider Planning Applications

 

 
5.1 A250675: 38-40 Y Stryd Fawr

 

Datganodd y Cyng. Alun Williams fuddiant ac ni chymerodd ran yn y drafodaeth.

 

Er bod y Cyngor Tref yn croesawu’r cynnig i gyflwyno fflatiau ychwanegol yng nghanol Aberystwyth, mae’n GWRTHWYNEBU’r cais am y rhesymau canlynol:

 

·         Ystyrir bod defnyddio her fforddiadwyedd gan yr ymgeisydd yn ffordd amhriodol o osgoi’r gofyniad i ddarparu tai fforddiadwy.

·         Mae’r Cyngor yn gwrthwynebu’r dull o gyflwyno’r datblygiad fesul cam. Mae rhannu’r datblygiad yn gamau yn tanseilio’r broses gynllunio, yn enwedig o ran darpariaeth tai fforddiadwy.

 

Pe bai’r cais yn cael ei gymeradwyo, gofynnwn i’r unedau gael eu dynodi fel tai fforddiadwy ac i amodau priodol gael eu cymhwyso i atal eu defnydd fel llety gwyliau neu ail gartrefi.

 

 

A250675: 38-40 Y Stryd Fawr

 

Cllr. Alun Williams declared an interest and did not participate in the discussion.

 

Whilst welcoming the proposal to introduce additional flats in the centre of Aberystwyth, the Town Council OBJECTS to the application for the following reasons:

 

·         The applicant’s use of an affordability challenge is considered an inappropriate means of avoiding the requirement to provide affordable housing.

·         The phased delivery of the development is generally opposed. Dividing the development into phases undermines the planning process, particularly in relation to affordable housing provision.

 

Should the application be approved, we request that the units be designated as affordable housing and that appropriate conditions be applied to prevent their use as holiday accommodation or second homes.

 

 

 

 

 

 

 

 

5.2 A250680: Sterling House, 13 Y Porth Bach

 

Datganodd y Cyng. Alun Williams fuddiant ac ni chymerodd ran yn y trafodaethau.

 

Er bod y Cyngor Tref yn croesawu’r cynnig i gyflwyno fflatiau ychwanegol yn y dref, mae’n GWRTHWYNEBU’r cais am y rheswm canlynol:

 

·         Ystyrir bod defnyddio her fforddiadwyedd gan yr ymgeisydd yn ffordd amhriodol o osgoi’r gofyniad i ddarparu tai fforddiadwy.

 

Rydym hefyd yn dymuno nodi bod y meintiau llawr mewnol arfaethedig I Fflatiau 1 a 2 yn is na’r lleiafswm a argymhellir yn Atodiad B o Ofynion Ansawdd Datblygu Cymru 2021. Er nad yw’r safonau hyn yn statudol, rydym yn dymuno pwysleisio pwysigrwydd cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru, sy’n argymell lleiafswm o 50m² ar gyfer annedd un ystafell wely, 53m² ar gyfer annedd un ystafell wely i ddau berson, a 58m² ar gyfer annedd dwy ystafell wely i dri pherson.

Pe bai’r cais yn cael ei gymeradwyo, gofynnwn i’r unedau gael eu dynodi fel tai fforddiadwy ac i amodau priodol gael eu cymhwyso i atal eu defnydd fel llety gwyliau neu ail gartrefi.

 

 

A250680: Sterling House, 13 Y Porth Bach

 

Cllr. Alun Williams declared an interest and did not participate in discussions.

 

Whilst welcoming the proposal to introduce additional flats in the town, the Town Council OBJECTS to the application for the following reason:

 

·         The applicant’s use of an affordability challenge is considered an inappropriate means of avoiding the requirement to provide affordable housing.

 

We also wish to note that the proposed internal floor areas for Flat number 1 and 2 fall below the recommended minimums set out in Appendix B of the Welsh Development Quality Requirements 2021. Although these standards are not statutory, we wish to emphasise the importance of meeting the Welsh Government’s guidance, which recommends a minimum of 50m² for a one-bedroom dwelling, 53m² for a one-bedroom, two-person dwelling, and 58m² for a two-bedroom, three-person dwelling

Should the application be approved, we request that the units be designated as affordable housing and that appropriate conditions be applied to prevent their use as holiday accommodation or second homes.

 

 
5.3 A250695: Rest, Ffordd y Gogledd

 

Datganodd y Cyng. Alun Williams fuddiant ac ni chymerodd ran yn y trafodaethau.

 

Datganodd y Cyng. Kerry Ferguson fuddiant ac ni chymerodd ran yn y trafodaethau.

 

Mae’r Cyngor Tref yn parhau i WRTHWYNEBU’r cais, ac yn cefnogi gwrthod y cais gwreiddiol gan Gyngor Sir Ceredigion, ynghyd â gwrthod yr apêl gan Lywodraeth Cymru. Nodwn fod penderfyniad yr apêl gan Lywodraeth Cymru (CAS-03995-W1F3T5) yn nodi: “Byddai dymchwel y rhan fwyaf o’r wal flaen yn arwain at golli nodwedd hanesyddol bwysig.” Hoffem ailadrodd ein sylwadau blaenorol:

 

 

Mae’r Cyngor Tref yn GWRTHWYNEBU’r cais hwn oherwydd:

 

·         Colli’r wal a’r rheiliau, sydd yn nodweddion hanesyddol allweddol o’r adeilad ac sy’n cyfrannu at gymeriad ehangach yr ardal. Mae Ffordd y Gogledd yn ardal hanesyddol yn Aberystwyth ac yn nodedig am ei thai mawr o’r cyfnod Fictoraidd a’u gerddi blaen. Byddai cael gwared ar y wal a’r rheiliau yn groes i egwyddorion yr ardal gadwraeth.

·         Mae’r cais yn cynrychioli colled o ofod gwyrdd.

 

 

Rydym hefyd yn nodi bod y dyfarniadau cyfreithiol a ddyfynnwyd gan yr ymgeisydd yn dyddio o cyn datganoli ac yn fwy na 30 oed, ac felly nid ydynt yn adlewyrchu polisïau cynllunio cyfredol Cymru. Dylid rhoi sylw penodol i Ganllawiau Cynllunio Atodol ar Werthusiad Ardal Gadwraeth Aberystwyth.

A250695: Rest, Ffordd y Gogledd

 

Cllr. Alun Williams declared an interest and did not participate in discussions.

 

Cllr. Kerry Ferguson declared an interest and did not participate in discussions.

 

The Town Council continues to OBJECT to the application, and supports Ceredigion County Council’s rejection of the original application, and dismissal of the appeal by the Welsh Government. We note the Welsh Government’s appeal decision (CAS-03995-W1F3T5) states that “The demolition of most of the front wall would result in the loss of an important historic feature”. We would like to re-iterate our previous comments:

 

The Town Council OBJECTS to this application due to:

 

·         The loss of the wall and railings, which are key historic features of the building and contribute to the wider character of the area. North Road is a historic area of Aberystwyth and is characterised by its large Victorian-era houses and front gardens. Removal of the wall and railings would be contrary to the principles of the conservation area.

·         The application represents a loss of green space.

 

 

We further note that the legal judgements cited by the applicant pre-date devolution and are over 30 years old, and therefore not reflective of current Welsh planning policy. Particular notice should be taken of the Aberystwyth Conservation Area Appraisal Supplementary Planning Guidance.

 

 
5.4 A250635: Fflatiau 1 & 2, Llys Cranwell, Morfa Mawr

 

Mae’r Cyngor Tref yn GWRTHWYNEBU’r cais ar y sail bod y defnydd arfaethedig o ffenestri uPVC yn enwedig ar Morfa Mawr yn amhriodol yng nghyd-destun yr Ardal Gadwraeth. Er nad yw’r adeilad ei hun yn hanesyddol, ffenestri pren yw’r safon ar gyfer yr eiddo cyfagos ac fe’u hystyrir yn fwy cynaliadwy ac yn fwy addas i gymeriad yr ardal.

 

Cyfeirir at ffenestri pren yn y Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) ar Werthusiad Ardal Gadwraeth Aberystwyth fel nodwedd ddiffiniol o’r Ardal Gadwraeth.

A250635: Fflatiau 1 & 2, Llys Cranwell, Morfa Mawr

 

The Town Council OBJECTS the application on the grounds that the proposed use of uPVC windows especially on Queen’s Road is inappropriate within the context of the Conservation Area. While the building itself is not historic, timber windows are the standard for surrounding properties and are considered more sustainable and in keeping with the character of the area.

 

Wooden windows are referenced in the adopted Aberystwyth Conservation Area Appraisal Supplementary Planning Guidance (SPG) as a defining characteristic of the Conservation Area.

 

 
6 Gohebiaeth Correspondence

 

 
6.1 Diwrnod Hawliau’r Gymraeg UMCA: Gwahoddiad i ddathliad myfyrwyr Cymraeg yn Aberystwyth, i’w gynnal yn Neuadd Pantycelyn ddydd Iau 4 Rhagfyr 2025. Diwrnod Hawliau’r Gymraeg UMCA: Invitation to a celebration of Welsh students in Aberystwyth, being held at Neuadd Pantycelyn on Thursday 4 December 2025.  
6.2 Ras 5k Nos Galan: Gohebiaeth yn amlinellu cynigion ar gyfer ras redeg 5k drwy Aberystwyth ar Nos Galan, ac yn gofyn am gefnogaeth y Cyngor ar gyfer y digwyddiad. I’w ystyried gan y Pwyllgor Rheoli Cyffredinol.

 

New Year’s Eve 5k Race: Correspondence outlining proposals for a 5k running race through Aberystwyth on New Year’s Eve, and requesting the Council’s support for the event. To be considered by General Management Committee. Agenda Pwyllgor RhC/

GM Agenda

6.3 Murlun Sustrans: – Celf y Mabinogi

Derbyniwyd gohebiaeth ynghylch y murlun arfaethedig o dan Bont Trefechan, gan ofyn am adborth gan y Cyngor ar y dyluniad arfaethedig. I’w ystyried gan y Pwyllgor Rheoli Cyffredinol.

Sustrans Mural: – Mabinogion Artwork

Correspondence was received regarding the proposed mural beneath Trefechan Bridge, requesting the Council’s feedback on the proposed design. To be considered by General Management Committee.

Agenda Pwyllgor RhC/

GM Agenda

Daeth y cyfarfod i ben am 20:50                                                                  The meeting was closed at 20:50

Cofnodion:

 

 

          Cyngor Tref   ABERYSTWYTH   Town Council

 

Tŷ’r Offeiriad / The Presbytery

Neuadd Gwenfrewi

Morfa Mawr / Queen’s Road

Aberystwyth

SY23 2HS

 

council@aberystwyth.gov.uk

www.aberystwyth.gov.uk

01970 624761

Maer Aberystwyth Mayor: Y Cyng. / Cllr. Emlyn Jones

1.10.2025

 

Annwyl Gynghorydd / Dear Councillor

 

Fe’ch gwahoddir i fynychu gyfarfod hybrid o’r Pwyllgor Cynllunio a gynhelir o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi, Morfa Mawr, nos Lun, 6.10.2025 am 19:30

 

You are invited to attend a hybrid meeting of the Planning Committee to be held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi, Queen’s Road, at 19:30 on Monday 6.10.2025

 

AGENDA

 

1 Yn bresennol Present
2 Ymddiheuriadau Apologies
3 Datganiadau diddordeb Declarations of interest
4 Cyfeiriadau personol Personal references
5 Ystyried Ceisiadau Cynllunio To consider Planning Applications
5.1 A250675: 38-40 Y Stryd Fawr A250675: 38-40 Y Stryd Fawr
5.2 A250680: Sterling House, 13 Y Porth Bach A250680: Sterling House, 13 Y Porth Bach
5.3 A250695: Rest, Ffordd y Gogledd A250695: Rest, Ffordd y Gogledd
5.4 A250635: Fflatiau 1 & 2, Llys Cranwell, Morfa Mawr A250635: Flats 1 & 2, Llys Cranwell, Morfa Mawr
6 Gohebiaeth Correspondence

Yr eiddoch yn gywir/ Yours sincerely

 

 

Will Rowlands

Clerc Tref Aberystwyth Town Clerk

 

Gall y cyhoedd fynychu cyfarfod y Pwyllgor trwy gysylltu gyda Swyddfa’r Cyngor Tref am fanylion

01970 624761 / council@aberystwyth.gov.uk

Members of the public can attend the Committee meeting by contacting the Town Council Office for details