Cynllunio

11/05/2026 am 6:30 pm

Cofnodion:

 

COFNODION  /  MINUTES

 

1 Yn bresennol:

 

Cyng. Jeff Smith (Cadeirydd)

Cyng. Emlyn Jones

Cyng. Talat Chaudhri

Cyng. Lucy Huws

Cyng. Julien Brun

Cyng. Nishant Chandolia

Cyng. Dylan Lewis-Rowlands

 

Yn mynychu:

Cyng. Dani Thomas

Cyng. Maldwyn Pryse

Cyng. Glynis Somers

Cyng. Alun Williams

Will Rowlands (Clerc)

Carol Thomas (Cyfieithydd)

Catrin Morgan-Lewis (Swyddog gweinyddol)

Present:

 

Cllr. Jeff Smith (Chair)

Cllr. Emlyn Jones

Cllr. Talat Chaudhri

Cllr. Lucy Huws

Cllr. Julien Brun

Cllr. Nishant Chandolia

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands

 

In attendance:

Cllr. Dani Thomas

Cllr. Maldwyn Pryse

Cllr. Glynis Somers

Cllr. Alun Williams

Will Rowlands (Clerk)

Carol Thomas (Translator)

Catrin Morgan-Lewis (Administration officer)

 

 
2 Ymddiheuriadau ac Absenoldeb:

 

Yn absennol gydag ymddiheuriadau:

·         Dim

Yn absennol heb ymddiheuriadau:

·         Dim

Apologies and Absences:

 

Absent with apologies:

·         None

 

Absent without apologies:

·         None

3 Datgan Diddordeb

 

Dim

Declaration of interest:

 

None

 

 

4 Cyfeiriadau Personol:

 

·         Estynnwyd llongyfarchiadau i’r cyn Gynghorydd, Kerry Ferguson, ar ei hethol fel Aelod o’r Senedd, gan gydnabod ei chyfraniad gwerthfawr fel cyn Gynghorydd a Maer, ynghyd â’i hymgysylltiad cryf â’r gymuned leol.

·         Estynnwyd diolch i’r Cyng. Emlyn Jones am ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol yn ystod y cyfnod hwn.

 

Personal references:

 

·         Congratulations were extended to former Cllr. Kerry Ferguson on her election as a Member of the Senedd, with recognition of her valued contribution as a former Councillor and Mayor, and her strong engagement with the local community.

·         Thanks were extended to Cllr. Emlyn Jones for carrying additional responsibilities during this period.

5 Sesiwn cyfranogiad Cyhoeddus i aelodau’r cyhoedd i godi cwestiynau neu wneud sylwadau ar yr agenda

 

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.

Public participation session for members of the public to raise questions or make comments on the agenda

 

There were no members of the public present.

 

6 Ymgynghoriad Cyn Cyflwyno Cais: Tir ym Mrynderw

 

Croesewir y gostyngiad yn maint y cynllun o’i gymharu â chynigion blaenorol.
Fodd bynnag, mae’r Cyngor yn gofyn i ystyriaeth ofalus gael ei rhoi i’r materion canlynol:

  • Mae defnyddio deunyddiau traddodiadol o ansawdd uchel yn hanfodol, o ystyried agosrwydd y safle at adeiladau rhestredig hanesyddol a’i leoliad o fewn ardal gadwraeth Aberystwyth. Dylid defnyddio fframiau ffenestri o alwminiwm neu bren yn hytrach na UPVC.
  • Mae’r Cyngor yn debygol o edrych yn anffafriol ar unrhyw her i ddarparu tai fforddiadwy.
  • Dylid gosod amod i sicrhau nad yw’r fflatiau’n cael eu defnyddio fel ail gartrefi neu lety gwyliau.
  • Byddem yn croesawu ymchwil ac ymchwiliad pellach i effaith parcio’r datblygiad, yn enwedig y defnydd o barcio ar Ffordd Stanley gan drigolion.

 

Yn ogystal, mae’r Cyngor yn argymell darparu pwyntiau gwefru cerbydau trydan ac yn annog cynnwys nodweddion cynaliadwy, megis paneli solar.

 

 

 

Pre-Application Consultation : Land at Brynderw

 

The reduced scale of the scheme, compared to previous proposals, is welcomed.

However, the Council requests that careful consideration is given to the following points:

 

·         The use of high-quality, traditional materials is essential, given the site’s proximity to historic listed buildings and its location within the Aberystwyth conservation area. Windows should be constructed from aluminium or timber rather than UPVC.

·         The Council is likely to look unfavourably upon any challenge to the provision of affordable housing.

·         A condition should be applied to ensure that the flats are not used as second homes or holiday accommodation.

·         We would welcome further investigation and research into the parking impact of the development, in particular the use of parking on nearby Ffordd Stanley by residents.

 

In addition, the Council recommends that electric vehicle charging points are provided and encourages the inclusion of sustainable features, such as solar panels.

 

 

7 Ystyried Ceisiadau Cynllunio

 

To consider Planning Applications

 

  Dim Ceisiadau Cynllunio No planning applications
8 Gohebiaeth Correspondence

 

8.1 Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO):

Derbyniwyd gohebiaeth gan Gyngor Sir Ceredigion ynghylch adolygiad o’r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO) ar gyfer canol tref Aberystwyth, sy’n dod i ben ar 19 Hydref 2026.

Gofynnwyd am farn ynghylch ymestyn y PSPO (am hyd at dair blynedd), ynghyd ag unrhyw dystiolaeth ategol. Mae angen cyflwyno ymateb erbyn 15 Mehefin 2026.

Public Space Protection Order (PSPO): Correspondence from Ceredigion County Council regarding review of the PSPO for Aberystwyth town centre (expires 19 October 2026). Views requested on extension (up to three years) and any supporting evidence. Response required by 15 June 2026. Cyfarfod blynyddol/ Annual Meeting
8.2 Strategaeth y Bwrdd Iechyd: Derbyniwyd gohebiaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ynghylch ei strategaeth hirdymor wedi’i hadnewyddu, ‘Cymru Iachach Canolbarth a Gorllewin Cymru’.

Gwahoddwyd Cynghorwyr i adolygu’r strategaeth a darparu adborth drwy’r ymgynghoriad.

Health Board Strategy: Correspondence from Hywel Dda University Health Board regarding its refreshed long-term strategy ‘A Healthier Mid and West Wales’. Councillors invited to review the strategy and provide feedback via the consultation.
8.3 Gwahoddiad i Ddigwyddiad Mur Cymunedol:
Derbyniwyd gwahoddiad i ymgynnull cymunedol ar 20 Mai 2026 ym Mhont Trefechan i ddathlu’r prosiect paentiad wal. Gofynnir i’r Cyngor Tref/Sir gadarnhau presenoldeb a phwy fydd yn rhoi anerchiad croeso.
Mural Event Invitation: Invitation received to community gathering on 20 May 2026 at Pont Trefechan to celebrate the mural project. Request for Town/County Council to confirm attendance and who will deliver welcome remarks.  

 

8.4 Ymddiswyddiad: Derbyniwyd ymddiswyddiad y cyn Gyng. Kerry Ferguson yn dilyn ei hethol i’r Senedd. Resignation: Resignation of former Cllr. Kerry Ferguson received following her election to the Senedd.
8.5 Canlyniad Etholiad y Senedd: Derbyniwyd Datganiad o Ganlyniad y Bleidlais ar gyfer etholaeth Ceredigion Penfro. I’w arddangos o fewn y dref; mae hefyd ar gael ar wefan y Cyngor Sir. Senedd Election Result: Declaration of Result of Poll for the Ceredigion Penfro constituency received. To be displayed within the town; also available on the County Council website.

Daeth y cyfarfod i ben am              18:58                                       The meeting was closed at 18:58

Cofnodion:

1 Yn bresennol Present
2 Ymddiheuriadau Apologies
3 Datganiadau diddordeb Declarations of interest
4 Cyfeiriadau personol Personal references
5 Sesiwn cyfranogiad cyhoeddus i aelodau’r cyhoedd i godi cwestiynau neu wneud sylwadau ar yr agenda Public participation session for members of the public to raise questions or make comments on the agenda
6 Ymgynghoriad Cyn Cyflwyno Cais: Tir ym Mrynderw Pre-Application Consultation : Land at Brynderw
7 Ystyried Ceisiadau Cynllunio To consider Planning Applications
8 Gohebiaeth Correspondence