Cynllunio
02/03/2026 am 6:30 pm
Cofnodion:
Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi, Morfa Mawr
Minutes of the Planning Committee meeting held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi, Queen’s Road
2.3.2026
|
COFNODION / MINUTES
|
|||
| 1 | Yn bresennol:
Cyng. Jeff Smith (Cadeirydd) Cyng. Dylan Lewis-Rowlands Cyng. Talat Chaudhri Cyng. Lucy Huws Cyng. Julien Brun Cyng. Kerry Ferguson
Yn mynychu: Cyng. Mark Strong Catrin Morgan-Lewis (Swyddog Gweinyddol) Carol Thomas (Translator) |
Present:
Cllr. Jeff Smith (Chair) Cllr. Dylan Lewis-Rowlands Cllr. Talat Chaudhri Cllr. Lucy Huws Cllr. Julien Brun Cllr. Kerry Ferguson
In attendance: Cllr. Mark Strong Catrin Morgan-Lewis (Office Administrator) Carol Thomas (Cyfieithydd)
|
|
| 2 | Ymddiheuriadau ac Absenoldeb:
Roedd y aelodau canlynol yn absennol gyda’u hymddiheuriadau, a PENDERFYNWYD cymeradwyo eu habsenoldeb: · Cyng. Emlyn Jones
Yn absennol heb ymddiheuriadau: · Cyng. Nishant Chandolia
|
Apologies and Absences:
The following members were absent with apologies, and it was RESOLVED to approve their absence: · Cllr. Emlyn Jones
Absent without apologies: · Cllr. Nishant Chandolia |
|
| 3 | Datgan Diddordeb
· Dim
|
Declaration of interest:
· None
|
|
| 4 | Cyfeiriadau Personol:
· Estynnwyd diolchiadau am Orymdaith ardderchog Dydd Gŵyl Dewi, gyda gwerthfawrogiad i Siôn Jobbins a’r grŵp trefnu am drefnu digwyddiad mor lwyddiannus a phoblogaidd. · Llongyfarchiadau a estynnwyd i Megan Jones Roberts am ei chyfraniad rhagorol i’r iaith Gymraeg a’i chefnogaeth ymroddedig i elusennau lleol yn Aberystwyth. · Cynhaliwyd munud o dawelwch er cof am bawb a effeithiwyd gan y trais diweddar yn Iran ac mewn gwledydd eraill.
|
Personal references:
· Thanks were extended for the excellent St David’s Day Parade, with appreciation to Siôn Jobbins and the organising group for arranging such a successful and well‑attended event. · Congratulations were extended to Megan Jones Roberts for her outstanding contribution to the Welsh language and for her dedicated support of local charities in Aberystwyth. · A one‑minute silence was observed in remembrance of all those affected by the recent atrocities in Iran and other countries.
|
|
| 5 | Mynediad cerddwyr ar Allt y Clogwyn
Derbyniodd y Pwyllgor wybodaeth gan Gyngor Sir Ceredigion ynghylch dynodi’r llwybr sy’n arwain o Cliff Terrace tuag at Glogwyn y Consti fel llwybr troed cyhoeddus.
Mynegodd yr Aelodau eu syndod nad oedd y llwybr eisoes wedi’i gofnodi fel hawl dramwy gyhoeddus, o ystyried ei fod wedi’i ddefnyddio’n rheolaidd gan drigolion lleol ers llawer o flynyddoedd. Cydnabuwyd y llwybr fel mynediad clir sy’n cysylltu â llwybrau troed sefydledig eraill.
Nodwyd hefyd ei fod yn gadarnhaol bod Cyngor Sir Ceredigion wedi dechrau ymchwilio’n ffurfiol i’r mater.
Ymhellach, nodwyd bod defnydd sylweddol gan y gymuned wedi bod yn amlwg ers amser maith, gyda chynghorwyr a thrigolion fel ei gilydd wedi cerdded y llwybr yn rheolaidd. Tynnwyd sylw’r Aelodau hefyd at y ffaith bod y llwybr yn cael ei ddefnyddio’n helaeth gan redwyr, ac mae mapiau poblogrwydd Strava yn darparu tystiolaeth weledol glir o ddefnydd cyson gan y cyhoedd dros nifer o flynyddoedd.
Mynegwyd cefnogaeth gryf i’r llwybr gael ei gydnabod yn ffurfiol fel hawl dramwy gyhoeddus.
PENDERFYNWYD yn unfrydol argymell bod y Cyngor yn ysgrifennu’n ôl yn swyddogol, yn hytrach na dibynnu ar Ffurflen D yn unig, i gadarnhau ei gefnogaeth i gydnabod y llwybr ac i argymell bod camau pellach yn cael eu cymryd i symud y mater yn ei flaen. |
Pedestrian access at Allt y Clogwyn
The Committee received information from Ceredigion County Council regarding designating the route leading from Cliff Terrace towards Constitution Hill as a public footpath.
Members expressed surprise that the route had not previously been recorded as a public right of way, given that it had been used regularly by local residents for many years. The route was acknowledged as a well‑defined access connecting to established footpaths.
Members also noted that it was positive that Ceredigion County Council had begun formally investigating the matter.
It was further noted that substantial community use of the route has been evident for a long time, with both councillors and residents having walked it regularly. Members highlighted that the route is also well‑used by runners, and that Strava popularity maps provide clear visual evidence of consistent public use over many years.
Strong support was expressed for the route to be formally recognised as a public right of way.
It was unanimously RECOMMENDED that the Council write back officially, rather than rely solely on Form D, to confirm its support for the recognition of the route and to recommend that the matter be progressed accordingly.
|
Swyddfa/ Office |
| 6 | Ystyried Ceisiadau Cynllunio
|
To consider Planning Applications
|
|
| 6.1 | A260070: Tir tu allan 28, Y Stryd Fawr
Mae’r Cyngor Tref yn GWRTHWYNEBU’r cais am y rhesymau canlynol: · Ystyrir bod y cynnig yn anghydnaws â chymeriad canol y dref. Nododd yr Aelodau fod Wi-Fi cyhoeddus eisoes ar gael yn eang yn Aberystwyth, ac felly nid yw manteision hysbysebu’r gosodiad yn cael eu hystyried yn angenrheidiol. · Mynegwyd pryderon ynghylch natur fasnachol y strwythur a maint yr hysbysebion arfaethedig. Ystyria’r Cyngor Tref y byddai’r gosodiad yn cyflwyno presenoldeb masnachol gormodol ar y stryd fawr. · Byddai’r datblygiad yn cyfrannu at lygredd gweledol ac anniben ar y palmant, sydd eisoes yn brysur, gan fod hynny o niwed i symudiad cerddwyr a chymeriad cyffredinol y stryd. Nododd yr Aelodau fod ymdrechion blaenorol i osod gosodiadau tebyg yn Aberystwyth heb fod yn llwyddiannus. · Codwyd materion ynghylch goleuadau mewnol a’r potensial am lygredd golau, ynghyd â pharhad gweledol y strwythur o fewn golygfa’r stryd. · Amlygwyd pryderon ynghylch hygyrchedd, yn enwedig mewn perthynas â cherddwyr â nam ar eu golwg a phersonau anabl. Ystyria’r Cyngor Tref y gellid gwneud gwell defnydd o’r gofod ar gyfer seddi cyhoeddus yn hytrach na seilwaith stryd ychwanegol. |
A260070: Land outside 28, Y Stryd Fawr
The Town Council OBJECTS to the application for the following reasons: · The proposal is considered to be out of character with the town centre. Members noted that public Wi-Fi is already widely available in Aberystwyth, and therefore the advertised benefits of the installation are not considered necessary. · Concerns were raised regarding the commercial nature of the structure and the extent of advertising proposed. The Town Council considers that the installation would introduce an excessive commercial presence within the high street. · The development would contribute to additional pavement clutter on an already busy street, to the detriment of pedestrian movement and the overall streetscape. Members noted that previous similar installations in Aberystwyth have been attempted and have not proven successful. · Issues were raised regarding internal illumination and the potential for light pollution, as well as the visual prominence of the structure within the street scene. · Accessibility concerns were highlighted, particularly in relation to visually impaired and disabled pedestrians. The Town Council considers that the space would be better utilised for public seating rather than additional street infrastructure.
|
|
| 6.2 | A260060: Tir tu allan Iceland, Aberystwyth
Mae’r Cyngor Tref yn GWRTHWYNEBU’r cais am y rhesymau canlynol: · Mynegwyd pryderon ynghylch natur fasnachol y strwythur a maint yr hysbysebion arfaethedig. Ystyriai’r Cyngor Tref y byddai’r gosodiad yn cyflwyno presenoldeb masnachol gormodol o fewn y dref. · Mynegwyd pryderon y gallai’r gosodiad arfaethedig rwystro llinellau golwg i gerddwyr sy’n croesi’r ffordd, gan arwain at faterion diogelwch posibl. · Tynnwyd sylw at effeithiau posibl ar welededd cerbydau o fewn yr ardal barcio, yn enwedig o ystyried y posibilrwydd o ehangu’r safle yn y dyfodol, a allai gynyddu llif traffig ymhellach. · Er bod Aelodau’n cydnabod y gallai darparu Wi‑Fi cyhoeddus gynnig rhywfaint o fudd yn y lleoliad hwn, nid oeddent yn argyhoeddedig y byddai hyn yn gorbwyso’r effaith weledol ac ymarferol a achosir gan y strwythur.
|
A260060: Land outside Iceland, Aberystwyth
The Town Council OBJECTS to the application for the following reasons: · Concerns were raised regarding the commercial nature of the structure and the extent of advertising proposed. The Town Council considered that the installation would introduce an excessive commercial presence within the Town. · Concerns were raised that the proposed installation could obstruct sightlines for pedestrians crossing the road, giving rise to potential safety issues. · Potential impacts on vehicle visibility within the car park were also highlighted, particularly in light of the possibility of future expansion of the site, which may further intensify traffic movements. · Whilst it was acknowledged that the intention to provide public Wi-Fi may offer some benefit in this location, Members were not satisfied that this would outweigh the visual and practical impacts of the structure.
|
|
| 6.3 | A260061: Tir tu allan Iceland, Aberystwyth
Mae’r Cyngor Tref yn GWRTHWYNEBU’r cais am y rhesymau canlynol: · Ystyrir bod y cynnig yn anghydnaws â chymeriad canol y dref. Nododd yr Aelodau fod Wi-Fi cyhoeddus eisoes ar gael yn eang yn Aberystwyth, ac felly nid yw manteision hysbysebu’r gosodiad yn cael eu hystyried yn angenrheidiol. · Mynegwyd pryderon ynghylch natur fasnachol y strwythur a maint yr hysbysebion arfaethedig. Ystyria’r Cyngor Tref y byddai’r gosodiad yn cyflwyno presenoldeb masnachol gormodol ar y stryd fawr. · Byddai’r datblygiad yn cyfrannu at lygredd gweledol ac anniben ar y palmant, sydd eisoes yn brysur, gan fod hynny o niwed i symudiad cerddwyr a chymeriad cyffredinol y stryd. Nododd yr Aelodau fod ymdrechion blaenorol i osod gosodiadau tebyg yn Aberystwyth heb fod yn llwyddiannus. · Codwyd materion ynghylch goleuadau mewnol a’r potensial am lygredd golau, ynghyd â pharhad gweledol y strwythur o fewn golygfa’r stryd. · Amlygwyd pryderon ynghylch hygyrchedd, yn enwedig mewn perthynas â cherddwyr â nam ar eu golwg a phersonau anabl. Ystyria’r Cyngor Tref y gellid gwneud gwell defnydd o’r gofod ar gyfer seddi cyhoeddus yn hytrach na seilwaith stryd ychwanegol.
|
A260061: Land outside Iceland, Aberystwyth
The Town Council OBJECTS to the application for the following reasons: · Concerns were raised regarding the commercial nature of the structure and the extent of advertising proposed. The Town Council considered that the installation would introduce an excessive commercial presence within the Town. · Concerns were raised that the proposed installation could obstruct sightlines for pedestrians crossing the road, giving rise to potential safety issues. · Potential impacts on vehicle visibility within the car park were also highlighted, particularly in light of the possibility of future expansion of the site, which may further intensify traffic movements. · Whilst it was acknowledged that the intention to provide public Wi-Fi may offer some benefit in this location, Members were not satisfied that this would outweigh the visual and practical impacts of the structure.
|
|
| 6.4 | A260088: 5, Ffordd Portland
NID oedd gan y Cyngor Tref WRTHWYNEBIAD, ar yr amod bod nodweddion hanesyddol yr eiddo yn cael eu cadw.
|
A260088: 5, Ffordd Portland
The Town Council raised NO OBJECTION, provided that the historic features of the property are retained.
|
|
| 8 | Gohebiaeth | Correspondence
|
|
| 8.1 | Crwydwyr Aberystwyth: Derbyniwyd ebost gan Grwydwyr Aberystwyth yn diolch i’r Cyngor am y cyfraniad o £1,000 tuag at eu hymweliad ym mis Mehefin â Saint Brieuc. Roedd trefniadau ar y gweill, a byddai adroddiad a chyfriflenni’n cael eu cyflwyno ar ôl yr ymweliad. | Aberystwyth Ramblers: An email from Aberystwyth Ramblers thanking the Council for the £1,000 contribution towards their June visit to Saint Brieuc. Arrangements were underway and a report and invoices would be submitted after the visit. | |
| 8.2 | Toiledau Cyhoeddus: Ysgrifennodd aelod o’r cyhoedd i fynegi ei gefnogaeth i’r Cyngor Tref ymgymryd â’r cyfrifoldeb dros y toiledau cyhoeddus, gan nodi y byddai hyn yn arwain at gynnydd yn y rhagdreth leol. | Public Toilets: A member of the public wrote in support of the Town Council taking over responsibility for the public toilets, noting this would increase the local precept. | |
| 8.3 | Datblygiad Penparcau: Derbyniwyd ebost gan Gyngor Sir Ceredigion yn cadarnhau derbyn y rhestr fer o enwau a gyflwynwyd gan Gyngor Tref Aberystwyth. Nodwyd bod yr enwau wedi’u hanfon ymlaen at y datblygwr ar gyfer adborth a dewis terfynol, ac y gall cofrestru ffurfiol gyda Royal Mail gymryd hyd at chwe wythnos. Caiff y Cyngor ei ddiweddaru unwaith y bydd y broses wedi’i chwblhau. | Penparcau development: An email was received from Ceredigion County Council confirming receipt of the shortlist of names submitted by Aberystwyth Town Council. It was noted that the names had been passed to the developer for feedback and final selection, and that formal registration with Royal Mail may take up to six weeks. The Council will be updated once the process is completed. |
Cofnodion:
Fe’ch gwahoddir i fynychu gyfarfod hybrid o’r Pwyllgor Cynllunio a gynhelir o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi, Morfa Mawr, am 18:30 ar nos Lun 2.3.2026
You are invited to attend a hybrid meeting of the Planning Committee to be held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi, Queen’s Road, at 18:30 on Monday 2.3.2026
AGENDA
| 1 | Yn bresennol | Present |
| 2 | Ymddiheuriadau | Apologies |
| 3 | Datganiadau diddordeb | Declarations of interest |
| 4 | Cyfeiriadau personol | Personal references |
| 5 | Mynediad cerddwyr ar Allt y Clogwyn | Pedestrian access at Allt y Clogwyn |
| 6 | Ystyried Ceisiadau Cynllunio | To consider Planning Applications |
| 6.1 | A260070: Tir tu allan 28, Y Stryd Fawr | A260070: Land outside 28, Y Stryd Fawr |
| 6.2 | A260060: Tir tu allan Iceland, Aberystwyth | A260060: Land outside Iceland, Aberystwyth |
| 6.3 | A260061: Tir tu allan Iceland, Aberystwyth | A260061: Land outside Iceland, Aberystwyth |
| 6.4 | A260088: 5, Ffordd Portland | A260088: 5, Ffordd Portland |
| 7 | Gohebiaeth | Correspondence |