Ein Partneriaid

Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn cydnabod pwysigrwydd a gwerth gweithio gyda phartneriaid lleol i ddatblygu’r dref a chynnal y lefel uchel o ddarparu gwasanaethau y mae’r Cyngor Tref yn ymdrechu amdani. Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid a grwpiau lleol er mwyn cyflawni hyn.

Bob blwyddyn mae’r Cyngor Tref yn dyrannu Cynghorwyr fel cynrychiolwyr i nifer o gyrff allanol. Mae hyn yn sicrhau bod y Cyngor, ac felly’r dref, yn cael eu cynrychioli ar y cyrff hyn a bod y grwpiau hyn yn cael eu cynrychioli yn y Cyngor Tref. Mae cynghorwyr sy’n aelodau o gyrff allanol yn gweithredu fel cyswllt rhwng grwpiau a Chyngor y Dref, gan adrodd yn rheolaidd ar gyfarfodydd a fynychir a sicrhau bod safbwyntiau a gweithgareddau’r cyrff hyn yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor Tref ac i’r gwrthwyneb. Isod gallwch ddod o hyd i restr o’r cyrff allanol yr ydym yn dyrannu aelodau iddynt, a’r aelodau a ddyrannwyd ar gyfer y flwyddyn bresennol a blaenorol.

Mae Cyngor Tref Aberystwyth hefyd yn un o’r tri sefydliad a sefydlodd Prosiect Aber, partneriaeth adfywio a ariennir gan grant rhwng y Cyngor Tref, Menter Aberystwyth a Chlwb Busnes Aberystwyth.